©CrownCopyright2020
STORYTirweddauHudol(©CrownCopyright2020)1

Tirweddau hudol

Eglwysi hynafol Cymru a’u cysylltiad hudol â’r dirwedd

by Caroline Welch, Church Support Officer Wales

 

Beth yw hynodrwydd tirwedd wyllt a diamgyffred Cymru; a’r eglwysi hynafol rydych yn dod ar eu traws, bob milltir neu ddwy, sydd i’w gweld â chysylltiad mor annatod â hi?

Eglwysi ni ddaeth treigl amser ar eu cyfyl; eglwysi sy’n sefyll mewn cylch o ‘llan’, wedi’u hamddiffyn gan goed sy’n perthyn i gyfnod cyn cof dyn. Eglwysi sy’n un ag elfennau eu hamgylchfyd; y mynyddoedd, y moroedd, y cymoedd a’r ffrydiau.

Y casgliad mwyaf o eglwysi canoloesol yn y byd, mae’n debyg

Dywedir bod gan Gymru y casgliad helaethaf o eglwysi canoloesol (hynny yw 500+ oed), unrhyw le yn y byd. Mae eglwys, yn aml ar safle cyn-Gristnogol, yn llythrennol bron bob yn ail filltir. Mae miloedd ohonynt.

Ond pam eu bod yn aml mor anghysbell?

A phan rydych chi’n dod ar draws un ohonynt, pam y cewch yr ymdeimlad fod amser yn peidio â bod, wedi sefyll yn llonydd. A’ch bod wedi camu i oes ysbrydol amgenach? Ac yna, pan eisteddwch yn yr hen seddau a meinciau cefn agored a chau eich llygaid, y teimlwch y gallwch anadlu’r un awyr â’r rhai a fu yma, gannoedd o flynyddoedd o’ch blaen.

©CrownCopyright2020
Delwedd

Beth yw’r ymdeimlad arallfydol mae gymaint o eglwysi Cymru yn ennyn ynom, wrth i ni eu darganfod?

Ai’r awyrgylch sy’n gyfrifol?

Mae’n bosib mai’r awyrgylch sy’n gyfrifol am yr ymdeimlad; yr oglau llwydni, y dymheredd isel, y tywyllwch, y patina, arwynebau oer y cerrig, y cerfiadau dirgel, y beddrodau, y cerrig beddi a’r ffenestri lliw. Pob un yn adrodd hanes ‘hen bethau anghofiedig dynol ryw’. Yn sicr, nid unrhyw bensaernïaeth fawreddog sy’n gyfrifol amdano, fel y’i ceir yn yr eglwysi ar draws Clawdd Offa.

Ni all y cysegrfeydd yma fod yn fwy dinod. Dyma hanes wedi’i ddinoethi, lle y cyfarfu pobl â’i Duw. Gwaith maen cyffredin, heb ei drin a waliau gwyngalchog, ffenestri bach, toeau isel a thyrau byrdew, cytiau clychau dirodres ac ymarferol.

STORYTirweddauHudol(©CrownCopyright2020)4

Ynteu rhywbeth ynghylch y lleoliad

Ond mae yna rywbeth hefyd ynghylch y lleoliad. Rhywbeth ynghylch yr union leoliad hwn. Mae’n anodd daro’r hoelen ar ei phen. Nid oedd yn bosib i chi hyd yn oed weld yr eglwys nes i chi fod yn wyneb yn wyneb â hi. Mae’n ymddangos yn amhosib y gallai eglwys fod yn y fan hyn, mor bell o ddynol ryw, wedi ei chysgodi gan y mynyddoedd a’i golwg tua’r môr, bron yn hollol ddiarffordd, o fewn cyrraedd ar droed yn unig.

Neu, sut y goroesai yn y fan hyn; fel Capel St Gofan yn Bosherston, hanner ffordd i fyny clogwyn, neu St Cwyfan, Ynys Môn, eglwys ar ynys, ni ellir ei chyrraedd ond pan mae’r llanw’n isel, neu St Tanwyg ger y Bermo, sydd wedi’i suddo yn y twyni tywod, dim ond ugain metr o’r marc dŵr uchel? Pam y cawsant eu hadeiladu yn yr union leoliadau hyn?

©CrownCopyright2020
Delwedd

Mae’r rhain yn llefydd sy’n gyforiog o hanesion; llefydd a anghofiwyd gan gyfoeth i’w ‘gwella’ a threigl amser ei hun.

Arwyddion pobl nomadig

Mae eglwysi Cymru yn rhan gynhenid o dirwedd y wlad. Maent yn ffrwyth bywyd cefn gwlad crwydrol Cymru yn yr Oesoedd Canol; pobl yn teithio yn ôl treigl y tymhorau, erwau eang o dir yn cael eu nodweddu gan ffermydd diarffordd, wedi’u gwasgaru dros bant a bryn rhwng mynydd a gwaun anghysbell. Roedd teithio drwy bob math o dywydd i gyrraedd yr eglwys, i gyfarfod a chymryd eich lle yng nghymun y saint, pererindota, dyma natur mynychu’r eglwys yn y parthau hyn.

Mae gan rai eglwysi, fel Pennant Melangell, eglwys ym Mhowys o’r seithfed ganrif, ddwy glwyd o hyd; y naill ar gyfer y bobl sy’n dod dros y waun a’r llall ar gyfer y bobl sy’n dod o’r dyffryn islaw. Yn sefyll yng nghanol mynwent gron, prif nodwedd yr eglwys hon yw ei chreirfa Romanésg, yr hynaf i oroesi yng Ngogledd Ewrop. Mae’r eglwys hefyd yn fan pererindod ar gyfer pobl sydd wrth eu bodd â bywyd gwyllt: mae St Melangell yn nawddsant ysgyfarnogod am iddi achub un a oedd yn cael ei hela gan Dywysog Powys ac o ganlyniad, fe’i hanrhydeddwyd â bywoliaeth y dyffryn am byth.

STORYTirweddauHudol(©CrownCopyright2020)8

Cysegrfeydd a ddewiswyd gan y Celtiaid

Mae pobl sydd wrth eu bodd â’r byd natur a bywyd gwyllt yn cael eu denu at eglwysi am nifer o resymau. Mae Pennant Melangell wedi ennill clod am ei choed ywen dwy fil oed; mae gan Gymru y casgliad hynaf o goed ywen yn y DU. Ym Mhennant Melangell, mae’r coed yn creu cylch o gwtsh; byddai unrhyw ddylunydd gardd yn tystio bod yr amgylchfyd. Y coed, y llwyni, y fynwent gron a’r wal gerrig hynafol yn rhan annatod o brofiad y lle. Ar adegau eraill, mae’r cylchoedd yn ehangach; amgylchynir yr eglwysi gan fryniau, mynyddoedd, meini hirion, ynys ar y tir neu yn y môr. Lleolir eglwys Mathri, Sir Benfro yng nghanol y pentref, fel castell mewn safle trawiadol lle mae pum heol yn cyfarfod â’i gilydd. Dewiswyd y lleoliadau hyn yn fwriadol, am fod yr eglwysi’n gweddu’n berffaith â’u hamgylchfyd, yn ennyn yr ymdeimlad bod eu safleoedd yn eithriadol, yn brydferth, yn ysbrydoledig. Ond pwy a’u dewisodd?

Yn y rhagair i’w lyfr Wales One Hundred Best Churches (sef yr ysbrydoliaeth am ran fwyaf yr erthygl hon) mae T J Hughes yn ysgrifennu:

‘Dro ar ôl tro, mae’r ymwelydd ag eglwysi hynafol Cymru yn cael ei syfrdanu gan urddas a phrydferthwch y lleoliad. Er mwyn iddo ddeall hyn yn llwyr, rhaid iddo sylweddoli bod y lleoliadau yn ddewis neilltuol Celtiaid sanctaidd, gwŷr a gwragedd a oedd am ganfod safleoedd arbennig i offrymu mawl, safleoedd a adlewyrchai ‘Dduw’r greadigaeth’. Yn ystod canrifoedd hir y cyfnod cyn-Gristnogol, roedd y Celtiaid yn rhan o ddiwylliant a oedd yn synhwyro’r ‘cysegredig’ yn y creigiau, y coed, a’r dŵr. Roedd eu diwylliant yn cydnabod bod naws yr ‘ysbrydol’ yn fwy dwys mewn rhai mannau a bod y mannau â’r ‘ymdeimlad o le’ grymus hyn â sancteiddrwydd arbennig yn perthyn iddynt.’

Mae'r cyfan yn y golwg

Roedd y Celtiaid am ddod o hyd i safleoedd a oedd yn ymgorffori eu cysylltiad arbennig â’u hamgylchfyd, ond roeddent hefyd am fod yn ymarferol, yn ceisio safleoedd lle roedd ffrydiau a ffynhonnau, a weithiau, ond ddim bob tro, safleoedd a gynigai gysgod rhag gwyntoedd nerthol Cymru. Yn unol â chylchoedd cerrig hynafol, gosodant eu hallorau i wynebu’r dwyrain, i’w hunioni â’r haul a safleoedd sanctaidd eraill.

Mae adfail eglwys Llanddwyn wedi ei lleoli’n union ar y penrhyn lle y daw’r Ynys Sanctaidd i’r golwg; ac mae addolwyr safleoedd hynafol St Beuno, Clynnog Fawr (man cychwyn pererindodau at Ynys Enlli) a St Baglan, Llanfaglan â golwg odidog o Ynys Llanddwyn. Mae eglwysi canolbarth Cymru i’w gweld wedi eu hunioni â chopaon Bannau Brycheiniog; felly mae eglwys St Sannan, Bedwellte i’r dde o Ferthyr Tudful, neu Llandeilo Graban, rhyw bymtheg milltir ar hugain i’r gogledd.

STORYTirweddauHudol(©CrownCopyright2020)10

Nefoedd ar y ddaear

Ers canrifoedd lawer, mae beirdd o’r farn bod tirwedd Cymru yn gysegredig.

Mae nifer sylweddol wedi cyfeirio at hyn yn eu gwaith a cheir llu o gyfeiriadau yn ein hemynau, e.e. Lewis Valentine yn yr emyn Dros Gymru’n Gwlad, ‘Er mwyn dy Fab a’i prynodd iddo’i hun, O! crea hi yn Gymru ar dy lun’ a geiriau ysbrydoledig W Rhys Nicholas yn yr emyn Pantyfedwen, ‘Mae melodïau’r cread er dy fwyn, mi welaf dy ogoniant ar bob twyn’.

Yng Nghymru, nid oes angen meindyrau a bwâu gothig i gyfeirio’r llygad at y nefoedd; nid oes yma bensaernïaeth fawreddog gan fod yr eglwysi dinod yn perthyn i’r amgylchfyd. Cyfarfu St Brynach ag angylion ar Fynydd Carningli (copa’r angylion) ac mae hyd yn oed plant yn teimlo hyn.

Mae Anne Eastham, hanesydd llwybrau pererin Saints & Stones, yn adrodd yr hyn a ddigwyddodd pan aeth hi â dosbarth mawr o blant ysgol siaradus i ymweld ag eglwys St Justinian, Llanstinian:

‘Am yr hanner milltir cyntaf ar hyd y llyn, roedden nhw mor swnllyd â phosib, ond wrth i ni groesi’r bont welltog tuag at y fynwent Oes Efydd enfawr, daeth tawelwch drostynt. Tynnais eu sylw at y rhosod crwydrol a dyfai yno, unig olion pentref canoloesol sydd bellach wedi mynd i ebargofiant. Roedden nhw’n feddylgar. Sylwodd un plentyn ar enw fferm y teulu ar garreg fedd; ac fel dosbarth, roedden nhw’n un â hanes y lle, yn pwyso a mesur eu gorffennol a’u dyfodol mewn distawrwydd. A phan agorais ddrws yr eglwys hynafol, aethon nhw i fewn heb smic, gan eistedd yn y seddau heb i mi orfod gofyn, yn dawel ac yn fyfyrgar. Hyd yn oed yn wyth mlwydd oed, teimlon nhw naws arbennig y lle, er nad oedd ganddyn nhw yr eirfa i fynegi hyn’.

STORYTirweddauHudol(©CrownCopyright2020)6

 

Digyfnewid a thragwyddol

Mae yna rywbeth am natur y safleoedd hynafol, dinod hyn sy’n taro deg, yn enwedig ar hyn o bryd; yn llecynnau arbennig sy’n cyfathrebu â ni mewn cyfnodau anodd.

Efallai ein bod yn fwy ymwybodol nag erioed o’r ffaith eu bod wedi sefyll yma ers canrifoedd, milenia. Ac maen nhw yma o hyd. Tra bod pobl yn mynd a dod, genedigaethau, priodasau, marwolaethau; mae’r eglwysi a’u tirwedd hudol yn parhau.

A phan y gallwch ymweld â hwy, cewch ddod o hyd i ddarn bach o’r nefoedd, yma ar y ddaear, yn nhirwedd sanctaidd Cymru.

Dewch yn Gyfaill Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi - ar gyfer pobl sy'n dwli ar eglwysi!