Sant Mair
FriendsOfFriendlessChurches

FriendsOfFriendlessChurches

FriendsOfFriendlessChurches

FriendsOfFriendlessChurches

FriendsOfFriendlessChurches

FriendsOfFriendlessChurches

SarahCrossland

FriendsOfFriendlessChurches

FriendsOfFriendlessChurches

FriendsOfFriendlessChurches

FriendsOfFriendlessChurches

FriendsOfFriendlessChurches

FriendsOfFriendlessChurches

SarahCrossland

Mae eglwys St Mair, Tal y Llyn yn sefyll mewn mynwent helaeth iawn, ac oherwydd hyn mae’n ymddangos yn fechan iawn.
Hanes yr eglwys hon
Fel nifer o adeiladau yng Nghymru, mae’n anodd gosod dyddiad arni, ond mae ei seiliau’n bendant yn rhai canoloesol, er bod y rhan fwyaf o’i gosodiadau’n dod o’r ddeunawfed ganrif, yn eu plith y rheiliau allor a’r pulpud.
Roedd Tal y Llyn yn arfer bod yn ganolbwynt treflan weddol o faint; roedd ynddi ddau ddeg dau o gartrefi cyn i’r Pla Du ei chyrraedd a’i difa’n llwyr. Mae’n sefyll ar domen pridd a all fod, yn ôl Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn domen cynhanesyddol.
Dyma yn bendant grefydd ddiymffrost, waliau enfawr syml yn cysgodi llecyn lle nad yw cyfoeth yn cyfrif dim. Dim ond un math o seddau sydd i’w gael, ac ni allen nhw fod yn fwy ymarferol. Mae pawb yn eistedd ar gyfres o estyll heb gefn, wedi eu gosod ar un pen i mewn i’r meinciau cerrig, a’r pen arall yn cael eu cynnal gan rodau pren.